Amdanom Ni

MAD Desk

MAD sy’n gwneud i chi edrych yn dda swnio yn dda...
creu argraff o’r dechrau llwyddiannus

Siaradwch â'n staff gwybodus, a gadewch iddyn nhw eich arwain at eich union ofynion

Rydym yn fusnes llwyddiannus, unigryw, dwy-ieithog wedi’i leoli ym Môn, Gogledd Cymru.

Creodd Arwel Hughes y cwmni ar 7fed Ionawr, 2000 ac mae’n mynd o nerth i nerth bob blwyddyn.

Mae Arwel Hughes yn frwdfrydig am Sain a Goleuo ac ers yn ifanc iawn, dysgodd ei hun i wneud i’r offer weithio iddo. Yn raddol trodd ei hobi/obsesiwn yn fusnes cynhyrfus a llewyrchus.

Ffocws MAD oedd creu cwmni allai pobl ymddiried ynddo, dro ar ôl tro. Yn dilyn ymchwil marchnata manwl, darganfyddodd

Arwel nad oedd yna’r un Cwmni arall ym Môn na Gogledd Cymru allai gyflawni eich holl anghenion sain, goleuo, llwyfannu, trydannol, theatrig a chynadledda.

Mae MAD yn rhoi’r cyfle i’w cwsmeiriaid i siopa am bopeth dan yr unto, o feicroffon sengl a lamp llwyfan i system lwyfan awyr agored lawn, gan gynnwys eich holl anghenion trydannol a dogfennau iechyd a diogelwch.

sain, goleuo, llwyfannu, trydanol, theatrig a chynadleddau ...


Mae’n gwasanaethau ni’n rhoi hyn i gyd i chi:

• Systemau Sain cyflawn mawr a bach
www.madsoundandlighting.com/sound

• Systemau Goleuo cyflawn mawr a bach
www.madsoundandlighting.com/lighting

• Cymhorthion gweledol a chlywedol, systemau cynadledda a Thechnoleg Gwybodaeth.

• Dylunio a gosod offer i glybiau, tafarndai, gwestai, theatrau, ysgolion, colegau a busnesau.

• Trelar awyr agored a system doeau ar gyfer perfformiadau a chyngherddau awyr agored sy’n barod i fynd i rywle, waeth beth fo’r tywydd.

• Mae’r siop yn gwerthu pob math o ddarnau sbâr newydd sain a goleuo, a nwyddau traul e.e. hylifau mwg, a stoc gynhwysfawr o lampau a nwyddau theatrig.

• Systemau llwyfannu o uchder a meintiau dec amrywiol. Yr union beth i unrhyw le. e.e. digwyddiadau corfforaethol, ysgolion, cynyrchiadau theatr a sioeau ffasiwn.

• Offer effeithiau arbennig, at ddefnydd theatrig neu ddisgo. Mae ganddom ni’r dechnoleg i ddarparu strobau, pyrotechneg, peiriannau mwg.