Mae MAD yn rhoi’r cyfle i’w cwsmeriaid gael popeth dan yr un to, o un meicroffon a lamp llwyfan i system lwyfan awyr agored lawn, yn cynnwys holl anghenion trydanol a dogfennau iechyd a diogelwch.
Dyma drosolwg o’n gwasanaethau:
• Gosod offer e.e. ar gyfer clybiau, tafarndai, gwestai, theatrau, ysgolion, colegau a busnesau.
• Trelar awyr agored a system doeau ar gyfer perfformiadau a chyngherddau awyr agored sy’n barod i fynd i rywle, waeth beth fo’r tywydd.
• Mae ein siop yn gwerthu pob math o offer newydd sain a goleuo, darnau sbâr a nwyddau traul e.e. hylifau mwg, a stoc gynhwysfawr o lampau a nwyddau theatr.
• Systemau llwyfannu o uchder a meintiau dec amrywiol. Mae’r rhain yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw leoliad neu ddigwyddiad corfforaethol, ysgolion, cynyrchiadau theatraidd a sioeau ffasiwn.
• Offer effeithiau arbennig, at ddefnydd theatraidd neu ddisgo yn bennaf. Mae gennym ni’r dechnoleg i ddarparu strobau, pyrotechneg a pheiriannau mwg, a llawer iawn mwy (gormod o lawer i sôn amdanynt yma, edrychwch ar y rhestr gyflawn i gael rhagor o wybodaeth).
MAD am Gynllunio