Croeso i Sain a Goleuo MAD

MAD sy’n gwneud i chi edrych yn dda swnio yn dda...
creu argraff o’r dechrau llwyddiannus
Siaradwch â'n staff gwybodus, a gadewch iddyn nhw eich arwain at eich union ofynion
Dyma lle gewch chi’r holl wybodaeth sy’n angenrheidiol i wneud llwyddiant ysgubol a diogel o’ch digwyddiad, sioe, cynhadledd neu ŵyl nesaf.
Mae MAD yn cynnig profiad sain a goleuo unigryw. Rydym yn falch o gyhoeddi gall ein cwmni ddiwallu eich holl anghenion mewn un lle.
Mae Sain a Goleuo MAD yn cynnig staff cymwynasgar sydd â chyfoeth o wybodaeth dechnolegol fydd yn eich cynorthwyo chi i greu digwyddiad llwyddiannus.
Daethoch o hyd i’r cwmni all eich cynorthwyo i gyrraedd eich nod.
Pan oeddwn yn ifanc dechreuais drefnu digwyddiadau i godi arian, a charnifalau lleol, gyda fy nhad. Dechreuais MAD i ehangu’r gwaith yma gyda digwyddiadau a gwyliau.
Caiff holl arbenigeddau MAD eu defnyddio i greu digwyddiad llwyddiannus; cynllunio, sain, goleuo, llwyfannu, asesiadau iechyd a diogelwch a datganiadau dull.
Rydym wedi gweithio gyda Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Cyngor Cefn Gwlad, cynghorau
lleol a digwyddiadau lleol. Mae neuadd neu bafiliwn mawr yng nghae Sioe Môn; gweithiwn yma’n gyson, yn rigio offer goleuo, sain ac offer cynhadledd.
Buom hefyd yn ffodus i weithio ar Marathon Môn yn 2004 a 2005. MAD oedd â’r gofal am
gyfathrebu ar ffurf radio dwyffordd ar draws y cwrs 26 milltir a’r system PA.
Fel rhan o’n hymrwymiad i gyflawni safon uchel y gweithgareddau, rydym yn dal
cyfarfodydd rheoliadd gyda threfnwyr, ac yn cynnig ein harbenigedd a phrofiad.
MAD sy’n gwneud i chi edrych yn dda swnio yn dda...
creu argraff o’r dechrau llwyddiannus