Cynadleddau a TG


                        …..rhoi sglein proffesiynol ar unrhyw ddigwyddiad


Dechreuodd ein blys am gynnig offer cynadleddau a chlyweled yn syml gydag un ymholiad yn gofyn faint fyddai cost llogi Sgrin Plasma ar gyfer cynhadledd.  Heb oedi eiliad, aethom allan a phrynu ambell i sgrin plasma ynghyd a thaflunyddion ac unrhyw beth arall fyddem ni ei angen i gynnal cynhadledd neu gyflwyniad effeithiol a llwyddiannus.


 


Ers hynny, rydym wedi mireinio ein pecyn cynadleddau drwy ychwanegu dolen anwytho, system meic radio Beyerdynamic ac amrywiaeth eang o feicroffonau o’r safon uchaf posib.


 


Prif offer cynadleddau a chlyweled MAD yw:


 


FIDEO: Cyflwyniadau, DVDs, Sgriniau Fflat, System Gymysgu Fideo – addas ar gyfer


Gyfnewid y gynhadledd i ystafell neu adeilad arall.  Gallech ddefnyddio nifer o ffynonellau, gydag allbwn fideo a chymysgu’r allbwn.


SYSTEMAU PA: Uchelseinyddion, meicroffonau, cymysgwyr a systemau dolenni clywed


GOLEUO: Addurniadol, pensaernïol, awyrgylch a llwyfan


LLWYFANNAU: Unrhyw gyfuniad neu faint o lwyfannau


DODREFN: Darllenfyrddau, Byrddau, Cadeiriau a’r gallu i gynllunio eich digwyddiad.


 


Cofiwch y gall unrhyw un o’n pecynnau gael eu haddasu i fod yn addas i’ch anghenion - mae croeso i chi gysylltu â ni am fwy o fanylion.  Bydd rhestr lawn o’n hoffer cynadleddau yn cael ei ychwanegu yn fuan. 


Rydym yn cael y pleser o weithio gyda Technuim CAST ym Mangor, Treysgawen Hall a Fferm Lastra, ac rydym yn eu hargymell fel lleoliadau i gynnal eich cynadleddau neu ddigwyddiadau ynddynt.



Sain, Goleuo, Llwyfannau, Offer Trydanol, Theatraidd a Chynadleddau