Goleuo MAD…..
……gwneud i chi edrych yn dda
Mae MAD hefyd yn darparu gwasanaeth unedau goleuo, gwasanaethu a chynnal a chadw i nifer o wahanol gwmnïau fel clybiau nos, tafarndai a bwytai. Mae gennym nifer o gytundebau gwasanaeth mewn grym eisoes, ac rydym bob amser yn ceisio ychwanegu at ein rhestr o gwsmeriaid.
Mae gennym ystod eang o stoc i’w llogi yn yr adran oleuo, o lamp sengl i uned newid lliw proffesiynol. Yn ogystal â hyn, rydym yn dylunio a gosod golau pensaernïol hefyd. Rydym yn cynnig nifer o gyfuniadau, mae croeso i chi gysylltu â ni neu alw mewn am fwy o fanylion. Rydym yn delio gyda chwmnïau fel Strand, Martin, Coemar, Pearl River a Zero 88.
Mae'r holl offer llogi ym MAD o'r safon uchaf, ac mae’n cael ei archwilio a'i brofi yn unol â gofynion PAT. Mae’r offer yma ar gael i’w llogi fesul diwrnod, wythnos neu hir dymor. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.
Am restr gynhwysfawr o’r offer sydd ar gael ewch i ...........
Sain, Goleuo, Llwyfannau, Offer Trydanol, Theatraidd a Chynadleddau