GwasanaethGosod MAD


            … Cynllunio


              …. Comisiynu


              …. Gosod


Mae MAD yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cynllunio a gosod offer sain, goleuo, fideo a llu o gynhyrchion eraill.


 


Rydym eisoes wedi cydweithio’n agos gyda nifer fawr o gwsmeriaid preifat, ysgolion, colegau, tafarndai a chlybiau. Gall y gwaith amrywio o system seinydd cefndirol syml i system olygfa ddwbl llawn ar gyfer clwb nos.


Gwelir esiampl o waith gosod MAD yn Swît Penrhos, Gwesty Bae Trearddur, Ynys Môn.  Yma fe wnaethom osod system sain amlbwrpas a fyddai’n addas ar gyfer disco neu gynadleddau.  Un o amcanion y briff yma oedd bod yr adloniant fyny grisiau yn gallu cael ei glywed lawr grisiau ac i’r gwrthwyneb. Llwyddodd MAD gyda’r nod yma ac mae’n ddefnyddiol iawn i’r client.


Yn ddiweddar, rydym wedi gosod offer Sain a TG yn yr ystafell gynadleddau yn adeilad Technium CAST ym Mharc Menai, Bangor. Gosodom 6 seinydd BR6 gan OHM. Mae’r system yma yn hyblyg iawn ac yn addasu ar gyfer nifer o ddibenion cynadleddau. Yn ogystal â hyn , gosodom daflunydd o’r nenfwd a sgrin rheoli o bell.


Sain, Goleuo, Llwyfannau, Offer Trydanol, Theatraidd a Chynadleddau