MAD am logi llwyfannau
…… Unrhyw gyfuniad ac unrhyw faint
Ymfalchïwn yn y ffaith mai MAD yw’r unig gwmni yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru sydd â chymaint o amrywiaeth o lwyfannau o wahanol faint dec ac amrywiol uchderau.
Mae’r deciau yn bren haenog gradd forol 19mm ar fframiau bocsys dur. Credwn fod y rhain yn hawdd iawn i’w defnyddio ac yn hawdd eu gosod. Rydym yn darganfod defnydd newydd i’r rhain drwy’r amser, o ddwy adran i ddal drymiwr i lwyfan llawn.
Maint llwyfan cyffredin yw 14m x 4.8m @ 1m o uchder.
Rydym wedi peiriannu uchder y llwyfannau mewn codiadau o 6” neu 150mm. Mae gennym amrywiaeth o risiau ar gael ar gyfer y gwahanol uchderau a chanllawiau lle bo angen.
Trefnu Sioe Ffasiwn?? Trefnu gig?
Dim llwyfan?
………..Dim Problem… Cysylltwch â MAD…
Mae ein holl unedau llwyfan yn cario gradd SWL o 500kg. Profir yr unedau gan gwmni Mona Lifting, Ynys Môn
I gael rhestr gynhwysfawr o offer llwyfannau sydd ar gael i’w llogi gan MAD, cliciwch yma
Offer Llogi MAD
Gallwn ddarparu offer i fodloni eich holl anghenion:
Offer Sain i’w llogi: Mwy o fanylion ****HYPERLINKS**
Offer Goleuo i’w llogi: Mwy o fanylion
Offer Rigin i’w llogi: Mwy o fanylion
Offer llwyfan i’w llogi: Mwy o fanylion
Offer Cynhadledd & TG i’w llogi: Mwy o fanylion
Offer pŵer prif gyflenwad i’w llogi: Mwy o fanylion