Rigin MAD
......hyblyg ac amlbwrpas
Rydym yn gallu gweithio yn y mwyafrif o amgylcheddau neu sefyllfaoedd e.e. Ar system to awyr agored neu mewn lleoliad. Mae gennym y gallu i hongian neu osod offer sain, goleuo neu offer technoleg gwybodaeth drwy ddefnyddio system 'trys'.
Mae’n stoc 'trys' i’w llogi yn cynyddu drwy’r amser, a bydd y rhan fwyaf o eitemau yn cael eu rhestru yn yr adran offer, ond mae croeso i chi gysylltu â ni i gael cyngor pellach am yr holl stoc sydd ar gael.
Mae gennym hefyd amrywiaeth eang o slingiau, webin, blociau cadwyn a gefynnau ar gael, ac maent i gyd yn cael eu profi yn gyson.
Iechyd a Diogelwch
Mae Iechyd a Diogelwch yn hynod bwysig i MAD, ac rydym yn cydymffurfio gyda phob cyfraith, boed yn rhai lleol neu'r DU.
Gyda chanllawiau llym ar gyfer iechyd a diogelwch, gall rhywbeth mor syml â newid bwlb fod angen sgaffaldiau, datganiad dull a chreu gwaith i ddau berson.
Nid yw synnwyr cyffredin ei hun ddigon da, rhaid dilyn y canllawiau, ond gobeithiwn y gallwn fod mor hyblyg â phosib lle bo modd. Mae gennym asesiad risg a datganiad gweithred dull i bob digwyddiad. Gall MAD ddarparu copi o’n datganiad iechyd a diogelwch ar gais.