Sain MAD....


.....gwneud i chi swnio’n dda.


 


Rydym ni o’r farn bod sŵn ein sain yn swyno pawb sy'n ei glywed.  Dros y blynyddoedd, mae MAD wedi cael y fraint o weithio gyda’r rhan fwyaf o fandiau gorau yng Nghymru a Lloegr, ac maent yn parhau i ddychwelyd atom.


 


Ein Systemau:


 


OHM TRS yw'n systemau sain mwyaf, ac mae’r system yn addas ar gyfer ein digwyddiadau mwyaf a bandiau byw.


 


Gall MAD gynnig systemau PA ar gyfer digwyddiadau awyr agored, lle ddefnyddiwn unedau o’r safon uchaf gan TOA ac INTER M.  Rydym yn gallu cynnig gwasanaeth i ardal eang gan ddarparu systemau o’r fath ar gyfer sioeau mawr amaethyddol Sir Fôn a Dinbych.  Defnyddir yr offer yma bob wythnos, yn aml ar gyfer cystadlaethau neidio ceffylau.


 


Ymfalchïa MAD yn y ffaith y gall hefyd gynnig yr un ansawdd o systemau bychain, a ddefnyddir yn bennaf mewn lleoliadau fel ysgolion neu neuaddau bychain.  Yn wir, nid oes yr un lleoliad yr un fath, felly bydd ein peirianwyr sain profiadol yn nodi anghenion pob lleoliad yn unigol.



Mae gennym ystod eang o stoc i’w logi yn yr adran sain, o feicroffon sengl i drawsfyrddau cymysgu proffesiynol. Rydym yn delio gyda chwmnïau fel AKG, Beyerdynamic, OHM, SHURE, TOA and Allen & Heath.  Gormod o lawer i sôn amdanynt yma!  Mae'r holl offer llogi ym MAD o'r safon uchaf, ac mae’n cael ei archwilio a'i brofi yn unol â gofynion PAT. Mae’r offer yma ar gael i’w llogi fesul diwrnod, wythnos neu hir dymor. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.


 


Am restr gynhwysfawr o’r offer sydd ar gael ewch i ...........


 


Sain, Goleuo, Llwyfannau, Offer Trydanol, Theatraidd a Chynadleddau